Jude 1:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yr hein a gaplant y petheu ny wyddant: a ’pha betheu bynac a wyddant yn anianawl, megis aniueilieit, ys y yn ddireswm, yn y petheu hyny yr ymlygrant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y rhai hyn, cymmaint o bethau ag na wyddant, a gablant; a chymmaint o bethau ag wrth naturiaeth, fel yr anifeiliaid direswm, a wyddant, yn y rhai hyn yr ymlygrant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am y rhain, cablant y pethau na wyddant, a’r pethau hynny a ddeallant drwy reddf fel y creaduriaid direswm, ynddynt yr ymlygrant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r bobl hyn yn sarhau'r pethau nad ydynt yn eu deall, a'r pethau y maent yn eu deall wrth reddf fel anifeiliaid direswm yw'r pethau sydd yn eu dinistrio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y rhai hyn a gablant pa bethau bynnag nis gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn eu deall yn reddfol, fel y creaduriaid direswm, yn y rhai yr ymlygrant.