Jude 1:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae hwy ntvvy; can ys cerddesont yn ffordd Cain, ac eu trosgwyddwyt can dwyll iat cyfloc Balaam, ac eu cyfer collwyt yn‐gwrthddywediat Core.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae iddynt! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac ynghyfeiliornad Balaam, er cyflog y rhuthrasant, ac yngwrth-ddywediad Core y darfu am danynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae hwy! canys aethant yn ffordd Cain; ac ymroesant am gyflog i gyfeiliomad Balam, a darfu amdanynt yn ymryson Cora.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain. Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian. Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora, a byddan nhw'n cael eu dinistrio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae hwy! Y maent wedi dilyn llwybr Cain; y maent wedi ymollwng, er mwyn elw, i gyfeiliornad Balaam; y maent wedi gwrthryfela fel Core, a darfod amdanynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae hwynt‐hwy! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac yng nghyfeiliornad Balaam er gwobr y rhuthrasant, ac a'u dyfethwyd yng ngwrth-ddywediad Corah.