Jude 1:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Enoch hefyt y saithfet o Adda, a prophwytawdd am y cyfryw ’rei, can ddywedyt, Wele, yr Arglwyð ’sy yn dyvot gyd a myrðion o ei sainct æ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac am y rhai hyn y prophwydodd hefyd y seithfed o Adam, Chenoc, gan ddywedyd, “Wele, daeth yr Arglwydd â’i fyrddiynnau sanctaidd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Proffwydodd amdanynt hwy hefyd Enoch, y seithfed o Adda, a dywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda’i fyrddiynau sanctaidd
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am y rhain y mae Enoch hefyd, y seithfed yn llinach Adda, wedi proffwydo wrth ddweud, "Wele, y mae'r Arglwydd yn dod gyda'i fyrddiynau sanctaidd
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac i'r rhai hyn hefyd y prophwydodd Enoch, y seithfed o Adda, gan ddywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda'i fyrddiynau sanctaidd,