Jude 1:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I roi barn yn erbyn pawp, ac y argyweddu yr oll andewolion yn y plith hwy am eu h oll andewiol weithredoedd, yr ei a wnaethant wy yn andewiol, ac am eu h oll ymadroddion calet yr ei a ðywedei pechaturieit andewiol yn eu h erbyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i wneuthur barn ar bawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol, am holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, ac am yr holl bethau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn Ei erbyn.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i wneuthur barn ar bawb ac i argyhoeddi’r holl annuwiolion am yr holl weithredoedd a wnaethant, ac am yr holl bethau celyd a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi eu gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi eu dweud amdano.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i weithredu barn ar bawb, i'w condemnio i gyd am annuwioldeb eu holl weithredoedd ysgeler, ac am atgasedd holl eiriau'r pechaduriaid annuwiol hynny yn ei erbyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol o holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, o'r holl bethau celyd, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.