Jude 1:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei hyn ynt murmurwyr, achwynwyr, ’rei yn cerddet yn ol y chwanteu y h unain: yr ei a ðyweit eu geneu valch‐betheu, yn rryveddu personae dynion, o bleit caffaeliat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn ydynt rwgnachwyr, tuchanwyr; yn ol eu chwantau y cerddant (ac eu genau sy’n llefaru tra-chwyddedig bethau,) yn edmygu gwynebau er mwyn budd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Grwgnachwyr ydyw’r rhain, tuchanwyr, yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain, a’u genau sydd yn dywedyd pethau chwyddedig, yn gwenieithio er mwyn elw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio eu hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pobl yn caru grwgnach a gweld bai yw'r rhain, yn byw yn l eu chwantau eu hunain, yn ymffrostgar eu siarad, yn gynffonwyr er mwyn ffafr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai sydd rwgnachwyr; yn cerdded yn ol eu chwantau (ac y mae eu genau yn llefaru geiriau gor‐chwyddedig), yn mawrygu wynebau er mwyn budd.