Jude 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ymgadwch yn‐cariat Dyw, gan edrych am drugaredd Iesu Christ, y vywyt tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan weddïo yn yr Yspryd Glân, cedwch eich hunain ynghariad Duw, gan edrych am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cedwch eich hunain yng nghariad Duw gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i fywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.