Jude 1:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ eraill cadwch ac ofn, gan eu tynnu allan o’r tan, a’ chasau ys y wisc vrychedig y gan y cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhai achubwch, gan eu cipio allan o’ r tân; ac wrth rai trugarhewch, mewn ofn, gan gasau hyd yn oed y wisg a frychwyd gan y cnawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond wrth eraill trugarhewch mewn ofn, gan gasáu hyd yn oed y wisg a ddifwynwyd gan y cnawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae eraill y dylech dosturio wrthynt gydag ofn, gan gasu hyd yn oed y dilledyn sydd llygredd y cnawd arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a rhai achubwch, gan eu cipio hwy allan o'r tân; ac wrth rai trugarhêwch, mewn ofn, gan gasâu hyd yn nod y wisg a halogwyd gan y cnawd.