Jude 1:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys ef, y Ddyw yr vnic ddoeth, ein Iachawdur y bo gogoniant a’ mawrygrwydd, ac arglwyðiaeth, a’ meddiant, ys yr owrhon ac yn oll oesoedd, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn gorfoledd, i’r unig Dduw ein Hiachawdwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, bydded gogoniant, mawredd, gallu, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yr awr hon, ac yn dragywydd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i’r unig Dduw ein Hachubwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y bo gogoniant, mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn bod pob oes, ac yn awr, a thrwy’r holl oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r Unig Dduw ein Hiachawdwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y mae gogoniant, mawredd, nerth, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yn awr, ac i'r holl oesoedd. Amen.