Jude 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vy‐ caredigion, pā rois vy‐ cwbl ddiwydrwydd ar escrivenu atoch am yr iechyd vvrieth cyfredin avvl, angenraid oedd y mi scrivenu atoch ich annoc, y ymdrech‐yn‐ddirving ym‐plait y ffydd, rhon a roed vnwaith ir Sainct.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, wrth wneuthur pob diwydrwydd i ysgrifenu attoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, bu rhaid i mi ysgrifenu attoch, gan eich cynghori i ymdrechu dros y ffydd a roddwyd unwaith am byth i’r saint;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Anwyliaid, a mi’n gwneuthur pob ymdrech i sgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredin, daeth anghenraid arnaf i sgrifennu atoch i’ch annog i ymegnïo dros y ffydd a draddodwyd unwaith i’r saint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, roeddwn i'n awyddus iawn i ysgrifennu atoch chi am y bywyd newydd dŷn ni'n ei rannu gyda'n gilydd. Ond nawr mae'n rhaid i mi ysgrifennu i'ch annog chi i wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi ei roi i'w bobl un waith ac am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, yr oeddwn yn awyddus iawn i ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth sy'n eiddo i ni i gyd, ond daeth rheidrwydd arnaf i ysgrifennu atoch i'ch annog i ymuno yn y frwydr o blaid y ffydd a draddodwyd un waith am byth i'r saint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, pan yn meddu pob eiddgarwch i ysgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, angenrhaid oedd i mi ysgrifennu atoch, gan eich annog i ymdrechu yn egniol dros y Ffydd a draddodwyd unwaith am byth i'r Saint.