Jude 1:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y mae rryw ddynion wedy ymlusco y mewn yr ei oeddent gynt wedy rrac ordino ir varnedigeth hon: andywolion ytynt yr ei ’sy yn ymchwely d rrat Dyw y n d d rythyll vvch, ac yn gwadu Dyw yr Arglwyð vnic, a’n h Arglwyð Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys daeth i mewn yn ddirgel ryw ddynion, y rhai er ys talm a rag-ysgrifenwyd i’r condemniad hwn, annuwiolion, a gras ein Duw yn cael ei droi ganddynt i drythyllwch, a’n hunig Feistr ac Arglwydd Iesu Grist yn cael Ei wadu ganddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys llithrodd i mewn yn ddirgel rai dynion a ddynodwyd ers talm i’r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn gŵyrdroi gras ein Duw ni i anlladrwydd ac yn gwadu’r unig Feistr a’n Harglwydd ni Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma yn dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae rhywrai wedi llithro'n llechwraidd i'ch plith, rhai y mae'r farnedigaeth hon arnynt wedi ei chofnodi erstalwm, mai pobl annuwiol ydynt, yn troi gras ein Duw ni yn anlladrwydd, ac yn gwadu ein hunig Feistr ac Arglwydd, Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys rhai dynion a ymlusgasant i mewn yn llechwraidd — y rhai yr ysgrifennwyd i lawr eu henwau ymlaen llaw er ys talm i'r farnedigaeth hon, dynion annuwiol, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu ein hunig Feistr a'n Harglwydd, Iesu Grist.