Jude 1:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wollysio gan hynny ydd wyf ych coffan, yn gymeint ac ychwy vnwaith wybot hyn, p’wedd y bu ir Arglwydd, gwedy darvot iddo waredu y bopul allan or Aipht, destruo gwedy hyny yr ei ny chredent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond ewyllysiaf eich coffau, a chwi yn gwybod unwaith am byth bob peth, i’r Arglwydd, wedi gwaredu o Hono bobl o dir yr Aipht, wedi hyny ddistrywio y rhai na chredasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dymunaf eich atgoffa chwi, er gwybod ohonoch bopeth unwaith am byth, i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddinistrio yn ôl llaw y rhai ni chredasant,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i'r Arglwydd, wedi iddo waredu'r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er eich bod chwi'n gwybod hyn oll, yr wyf am eich atgoffa fod yr Arglwydd, er iddo unwaith waredu'r bobl o dir yr Aifft, wedi dinistrio wedyn y rhai oedd heb gredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn ewyllysio eich coffâu chwi, a chwi yn gwybod pob peth yn hollol, i'r Arglwydd, wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aipht, ddistrywio ar ol hynny y rhai ni chredasant.