Jude 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Angelon hefyt yr ei ny chatwasāt eu dechreuat cyntaf, eithyr gadael eu preswylfa y h un, ef eu catwodd yn‐catwynae tragyvythal y dan dywyllwc h y d varn y dydd mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac angylion, y rhai ni chadwasant eu llywodraeth eu hunain, eithr a adawsant eu trigfa eu hunain, i farn y dydd mawr, mewn rhwymau tragywyddol, tan dywyllwch y’u cadwodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r angylion na chadwasant eu tywysogaeth eu hunain eithr a adawodd eu preswyl priodol, eu bod ganddo yng nghadw mewn gefynnau tragwyddol mewn tywyllwch i aros barn y dydd mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn beth am yr angylion hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi eu rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofiwch yr angylion hefyd, y rhai a wrthododd gadw o fewn terfynau eu llywodraeth ac a gefnodd ar eu trigfan eu hunain, iddo ef eu cadw hwy yn y tywyllwch mewn cadwynau tragwyddol, i aros barn y Dydd mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac angelion, y rhai ni chadwasant ei safle ddechreuol, eithr a adawsant eu trigfa ei hun, a gadwodd efe mewn rhwymau tragwyddol, dan dywyllwch, i Farn y Dydd Mawr —