Jude 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis Sodoma a’ Gomorrha, a’r dinasoedd oi h amgylch, yr ei yn gyffelip vodd ac wyntwy a wnaethant ’odinep, ac a ddilynesont gnawt arall, a ’osodwyt yn esempl, ac yn dyoddef dialeð tan tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel y mae Sodom a Gomorrah, a’r dinasoedd o’u hamgylch, wedi iddynt yn y cyffelyb fodd a’r rhai hyn, butteinio a myned ar ol cnawd dieithr, yn gorwedd o’n blaen yn esampl, gan ddioddef cospedigaeth tân tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Megis y gosodwyd Sodom a Gomorrah a’r dinasoedd o’u hamgylch, a ymroddodd i buteindra yn yr un modd â hwynt, a myned ar ôl cnawd dieithr, yn esiampl gan ddioddef cosbedigaeth tân tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion! Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chofiwch Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u cwmpas; fel yr angylion, ymollwng a wnaethant hwythau i buteindra ac i borthi eu chwantau annaturiol. Wrth gael eu cosbi yn y tn tragwyddol, y maent yn esiampl amlwg i bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y mae Sodom a Gomorrah, a'r Dinasoedd o'u hamgylch, wedi ymroddi i buteindra mewn cyffelyb fodd i'r rhai hyn, a myned ar ol cnawd dyeithr, wedi eu gosod allan fel esiampl, gan ddyoddef dialedd tân tragwyddol.