Jude 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn gyffelip hagen y mae hefyt y breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawt, ac yn tremygu llywodraeth, ac yn cablu yr ei‐’sy mewn‐awdurtot
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr un ffunud, er hyny, y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, y cnawd a halogant, a llywodraeth a ddiystyrant, a gogoniannau a gablant:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd er hynny y mae’r rhain yn eu breuddwydion yn halogi’r cnawd, yn dirmygu arglwyddiaeth ac yn cablu bodau gogoneddus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r un fath eto yn achos y rhai hyn. Y mae eu breuddwydio yn peri iddynt halogi'r cnawd, a diystyru awdurdod, a sarhau'r bodau nefol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eto yr un ffunnud y mae y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, yn halogi y cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu urddasolion.