Jude 1:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr Mi ha cael yr Archangel, pan ymrysonawdd ef yn erbyn diavol, ac ymðadleu am corph Moysen ny veiddiawdd y veio ef a chableu any d dywedyt Ceryddit yr Arglwydd di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond Michael yr arch-angel, pan â diafol yr ymddadleuai, ac yr ymresymmai ynghylch corph Mosheh, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn gablaidd, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ni feiddiodd Michael yr archangel pan ddadleuai ynghylch corff Moses, mewn ymryson â’r diafol, ddwyn barn sarhaus yn ei erbyn ef, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” ddwedodd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Mihangel, yr archangel, mewn ymryson 'r diafol yn dadlau am gorff Moses, ni feiddiodd gyhoeddi barn a fyddai'n sarhau'r diafol; yn hytrach dywedodd, "Cerydded yr Arglwydd di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Michael yr Archangel, pan yn dadleu â'r Diafol, a ymresymai âg ef ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn cabledd, ond dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.