Judges 1:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda'r bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho gyda phobl Jwda a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl.