Judges 1:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a'i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath. Dyma nhw'n lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef Dinistr).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma.