Judges 1:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau. Ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn.