Judges 1:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i'r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, "Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt."