Judges 1:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na'i threfydd, na Thaanach na'i threfydd, na thrigolion Dor na'i threfydd, na thrigolion Ibleam na'i threfydd, na thrigolion Megido na'i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni feddiannodd Manasse Beth-sean na Taanach a'u maestrefi, na disodli trigolion Dor, Ibleam, na Megido a'u maestrefi; daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.