Judges 1:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i'm rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i'th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch i'n helpu ni i ymladd y Canaaneaid sy'n byw ar y tir sydd wedi ei roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.” Felly dyma'r dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon, "Tyrd gyda mi i'm tiriogaeth, er mwyn inni ymladd yn erbyn y Canaaneaid; ac mi ddof finnau gyda thi i'th diriogaeth di." Ac fe aeth Simeon gydag ef.