Judges 1:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes, na thrigolion Beth‐anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.