Judges 1:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Adoni‐besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a'u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd DUW i mi. A hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Adoni Besec, "Bu deg a thrigain o frenhinoedd bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri i ffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi." Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.