Judges 10:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac addoli'r Baalim a'r Astaroth, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid; gwrthodasant yr ARGLWYDD a pheidio 'i wasanaethu.