Judges 10:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n curo a cham-drin pob Israel yn ddidrugaredd. Roedd pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen (sef Gilead), wedi dioddef am un deg wyth o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ysigodd y rheini'r Israeliaid a'u gormesu y flwyddyn honno; ac am ddeunaw mlynedd buont yn gormesu'r holl Israeliaid y tu hwnt i'r Iorddonen, yn Gilead yng ngwlad yr Amoriaid.