Judges 11:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab — pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.