Judges 11:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ARGLWYDD DDUW Israel a roddodd Sehon a'i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno.