Judges 11:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith a hyd yn oed i Abel-ceramim! — dau ddeg o drefi i gyd. Dyma fe'n eu difa nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi eu trechu gan Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid.