Judges 11:38 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a'i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â'i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Ie, dos." Gadawodd iddi fynd am ddeufis; ac aeth hithau a'i ffrindiau i wylo am ei morwyndod ar y mynyddoedd.