Judges 12:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent, Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiaid ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddynion Gilead yn dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi'r afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, "Ai un o Effraim wyt ti?" Pe byddai hwnnw'n ateb, "Nage",