Judges 12:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw ac yn eu lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna byddent yn dweud wrtho, "Dywed, 'Shibboleth'." Byddai yntau'n dweud, "Sibboleth", gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wu375?r Effraim y pryd hwnnw.