Judges 13:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o'th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i'r ARGLWYDD. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai'r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, "Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD." Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,