Judges 13:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a'i enw ef oedd Manoa; a'i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn.