Judges 13:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua'r nefoedd, yna angel yr ARGLWYDD a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a'i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r fflamau godi o'r allor dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a'i wraig hynny'n digwydd, dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i'r llawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.