Judges 13:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr ARGLWYDD ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'i wraig yn dweud, “Petai'r ARGLWYDD eisiau'n lladd ni fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i'w losgi a'r offrwm o rawn gynnon ni. Fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd a siarad â ni fel y gwnaeth e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai hi wrtho, "Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr."