Judges 13:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen o'r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a cael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd 'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid."