Judges 13:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i'w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr DUW a ddaeth ataf fi; a'i bryd ef oedd fel pryd angel DUW, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw — yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y wraig at ei gu373?r a dweud, "Daeth gu373?r Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf.