Judges 13:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen, o'r groth hyd ddydd ei farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrtho i, ‘Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, a paid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi ei gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddywedodd wrthyf, 'Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.'"