Judges 14:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a'i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Samson wrthynt, "Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.