Judges 14:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i'n tlodi ni y'n gwahoddasoch? onid felly y mae?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, "Huda dy u373?r i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?"