Judges 14:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i'm tad nac i'm mam: ac a'i mynegwn i ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.” “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, "Fy nghasu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi." Ac meddai yntau, "Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?"