Judges 14:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni wyddai ei dad ef na'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.