Judges 14:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Samson a aeth i waered a'i dad a'i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.