Judges 14:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i'w dad nac i'w fam yr hyn a wnaethai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.