Judges 14:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i'w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddych-welodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a ml y tu mewn i'r corff.