Judges 15:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi talm o ddyddiau, yn amser cynhaeaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â'i wraig â myn gafr; ac a ddywedodd, Mi a af i mewn at fy ngwraig i'r ystafell. Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth amser wedyn, adeg y cynhaeaf gwenith, dyma Samson yn mynd i weld ei wraig ac aeth â myn gafr ifanc yn anrheg iddi. Roedd e eisiau cysgu gyda hi ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson 'i wraig gyda myn gafr, a dweud, "Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr." Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd,