Judges 15:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma dair mil o ddynion Jwda yn mynd i lawr i'r ogof wrth Graig Etam, a dweud wrth Samson, “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai'r Philistiaid sy'n ein rheoli ni? Beth wyt ti'n feddwl wyt ti'n wneud?” “Dim ond talu'r pwyth yn ôl wnes i. Gwneud iddyn nhw beth wnaethon nhw i mi,” meddai Samson.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth tair mil o wu375?r o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, "Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?" Atebodd yntau, "Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi."