Judges 15:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedasant hwythau wrtho, I'th rwymo di y daethom i waered, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddynion Jwda yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod yma i dy ddal di a dy roi di i'r Philistiaid yn garcharor.” “Wnewch chi addo i mi na wnewch chi fy lladd i eich hunain?” meddai Samson.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedasant, "Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid." Dywedodd Samson wrthynt, "Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi."