Judges 16:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a'i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a'u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Delila yn rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo hwy, a dweud, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau.