Judges 16:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y'th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â'r we.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i — y saith plethen — i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i gloi gyda'r pin, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Delila wrth Samson, "Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di." Dywedodd wrthi, "Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau 'r hoelen, yna mi awn cyn wanned dyn cyffredin."